I helpu’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
ystyried y Bil Rheoleiddio ar Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru),
byddai’r Pwyllgor yn croesawu’ch sylwadau ar unrhyw un
o’r cwestiynau a ganlyn.
Cyffredinol
-
A ydych yn credu y bydd y Bil, fel y'i drafftiwyd, yn
cyflawni'r nodau (sicrhau llesiant dinasyddion a
gwella ansawdd gofal a chymorth yng Nghymru) sydd i’w gweld
yn adran 3 (paragraff 3.15) o'r Memorandwm Esboniadol? A oes angen
deddfwriaeth i gyflawni'r nodau hyn?
-
A oes unrhyw rwystrau posibl a allai ei gwneud
yn anodd rhoi darpariaethau'r Bil ar waith ac, os felly, beth ydynt
ac a yw'r Bil yn eu hystyried yn ddigonol?
-
A ydych yn credu bod unrhyw broblemau’n ymwneud
â chydraddoldeb yn y darpariaethau presennol yn y Bil
ar gyfer amddiffyn grwpiau gwahanol sy’n defnyddio
gwasanaethau?
-
A ydych yn credu bod unrhyw faterion o bwys wedi'u
hepgor o'r Bil neu a oes unrhyw elfennau rydych yn credu y
dylid eu cryfhau?
-
A ydych yn credu y bydd unrhyw ganlyniadau anfwriadol
yn deillio o'r Bil?
Darpariaethau yn y Bil
Hoffai’r Pwyllgor gael eich sylwadau ar
ddarpariaethau yn y Bil, ac i ba radddau y byddant yn
cyflawni’r dibenion a nodir. Er enghraifft:
- Beth yw eich barn am y darpariaethau yn rhan 1 o'r
Bil ar gyfer rheoleiddio gwasanaethau gofal
cymdeithasol?
Er enghraifft, mabwysiadu model rheoleiddio
sy’n seiliedig ar wasanaethau, ymgysylltu â'r cyhoedd,
a phwerau i gyflwyno system sgorio fel rhan o’r drefn arolygu
ac i godi ffioedd.
- Beth yw eich barn am y darpariaethau yn rhan 1 o'r
Bil ar gyfer rheoleiddio gwasanaethau cymdeithasol awdurdod
lleol?
Er enghraifft, ystyried y canlyniadau a gaiff
defnyddwyr gwasanaethau wrth adolygu perfformiad gwasanaethau
cymdeithasol, cynyddu cyfranogiad y cyhoedd, a gosod dyletswydd
newydd ar wasanaethau gofal cymdeithasol i baratoi adroddiadau ar y
farchnad leol.
- Beth yw eich barn ynghylch y darpariaethau yn rhan 1
o'r Bil ar gyfer datblygu system i oruchwylio’r farchnad
yn y sector gofal cymdeithasol?
Er enghraifft, asesu cynaliadwyedd ariannol a
chorfforaethol darparwyr gwasanaethau a pharatoi adroddiad ar
sefydlogrwydd y farchnad yn genedlaethol.
- Beth yw eich barn ynghylch y darpariaethau yn rhan 3
o'r Bil i newid enw a chyfansoddiad Cyngor Gofal Cymru
gan roi’r enw Gofal Cymdeithasol Cymru arno ac ehangu
ei gylch gwaith?
- Beth yw eich barn ynglŷn â’r
darpariaethau yn rhannau 4-8 o'r Bil ar gyfer rheoleiddio'r
gweithlu?
Er enghraifft, y cynigion i beidio ag ehangu’r
broses gofrestru i gynnwys categorïau newydd o staff, i gael
gwared ar gofrestru gwirfoddol ac i gyflwyno gorchmynion
gwahardd.
- Beth yw eich barn ar y darpariaethau yn rhan 9 o'r
Bil i gyrff rheoleiddio gydweithredu a chydweithio
?
Pwerau dirprwyedig
Mae’r Bil yn cynnwys pwerau i Weinidogion Cymru
wneud rheoliadau a chyhoeddi canllawiau, ac i Ofal Cymdeithasol
Cymru wneud Rheolau.
-
Yn eich barn chi, a yw’r Bil yn cynnig
cydbwysedd rhesymol rhwng yr hyn sydd wedi’i gynnwys ar
wyneb y Bil a'r hyn y bydd is-ddeddfwriaeth a
chanllawiau’n ymdrin â nhw?
Goblygiadau ariannol
-
Beth yn eich barn chi am oblygiadau ariannol y
Bil fel y’u nodir yn rhannau 6 a 7 o'r Memorandwm
Esboniadol?
Sylwadau eraill
-
A oes unrhyw sylwadau eraill yr hoffech eu
cynnig ynglŷn ag adrannau penodol o'r Bil?